Amdanom ni
Prosiect lleol yw Pwrpas, sydd wedi’i sefydlu i helpu dynion i wella’u hiechyd meddwl. Bydd yn gweithredu fel hwb a'i brif nod yw:
-
Codi ymwybyddiaeth o'r heriau iechyd meddwl sy'n wynebu dynion.
-
Ymgysylltu â dynion a hybu sgwrs.
-
Cyfeirio dynion at gymorth priodol.
Bydd Pwrpas yn cyflawni'r uchod drwy wneud y canlynol:
-
Cydweithio â chyflogwyr lleol a phartneriaid arbenigol.
-
Creu gwefan a fydd yn bwynt cyfeirio unigol, sy’n cynnwys gwybodaeth am achosion a symptomau iechyd meddwl gwael ynghyd â ffynonellau cymorth.
-
Hwyluso hyfforddiant i rwydwaith lleol o gyfeillion iechyd meddwl ac Ymgeleddwyr Iechyd Meddwl.
-
Cefnogi’r rhwydwaith hwn drwy ddarparu digwyddiadau rhwydweithio rheolaidd.
OEDDECH CHI'N GWYBOD?
-
Mae 12.5% o ddynion yn y Deyrnas Unedig yn dioddef gyda phroblem iechyd meddwl.
-
Dim ond 35% o ddynion sy’n ceisio cael cymorth gyda'u hiechyd meddwl.
-
Dynion yw 3 o bob 4 o hunanladdiadau.
-
Yn 2018 roedd 6,154 o hunanladdiadau yn y Deyrnas Unedig - 16 y dydd!
-
Hunanladdiad yw’r lladdwr mwyaf ymysg dynion o dan 45 oed, yn y Deyrnas Unedig, mwy na chanser neu glefyd y galon.
-
Mae alcohol yn gyfrifol am 33,000 o farwolaethau'r flwyddyn yn y Deyrnas Unedig.
-
Mae 4.3% o ddynion yn y Deyrnas Unedig yn ddibynnol ar gyffuriau.
-
Amcangyfrifir bod rhyw 2 filiwn o bobl yn y Deyrnas Unedig yn gaeth i gyffuriau dros y cownter.
-
Mae gan dros 300,000 o ddynion anhwylder bwyta – cynnydd o fwy na 70% yn y 6 mlynedd hyd at 2017.
-
Mae mwy na 2 filiwn o bobl yn y Deyrnas Unedig naill ai â phroblem gamblo neu mewn perygl o fynd yn gaeth iddo.
oMae 12.5% o ddynion yn y Deyrnas Unedig yn dioddef gyda phroblem iechyd meddwl.